
Dai yr adeiladwr
Dai ydw i, prentis CITB a byddaf yn gweithio trwy gwrs Adeiladu gyda Mathemateg gyda chi. Pan adewais i'r ysgol ychydig flynyddoedd yn ôl, nid mathemateg oedd fy nghryfder. Wedi i mi ddechrau fy mhrentisiaeth, sylweddolais cymaint mae angen mathemateg arna i yn fy ngwaith bob dydd a'r gwahaniaeth mae gwybod yr hanfodion yn gallu ei gael. Nawr, wedi ymarfer, dwi prin yn defnyddio fy nghyfrifiannell! Yn y cwrs hwn, byddaf yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich asesiad Lefel 1, ynghyd â dangos i chi sut mae mathemateg yn fy helpu wrth fy ngwaith bob dydd.